top of page

Gwasgodau Garth

 

Gwasgodau Wrth Fesur, ffurfiol ac achlysurol gyda thei bô hunan glymu i gyd-fynd.

 

Gwasgod ffurfiol wedi'u gwneud mewn defnydd twill siarcol 100% gwlân.

 

Gwasgod achlysurol wedi'i gwneud mewn gabardîn cotwm llwydfelyn; defnydd Diwedd-Rhol o dÅ· dylunio.

 

Gan ystyried safle eistedd mewn cadair olwyn, mae’r gwasgodau wedi’u cynllunio a’u torri yn bwrpasol fyrrach yn y blaen, yn hirach yn y cefn a gydag agoriadau ochr.  

 

Defnyddiwyd technegau teilwra traddodiadol ac maent yn cau gyda hen fotymau wedi’u hadfer a thyllau botwm wedi’u gwnïo â llaw.

​

Gorffennwyd blaen a thu fewn y gwasgodau gydag edau sidan twll botwm a phwythau pic addurniadol.

 

Mae Teilwr Bach yn cynnig gwasanaeth ‘mesur cywir’ a theilwriaeth addasol i oedolion a phlant gydag anghenion corfforol arbennig.

bottom of page