top of page

.

Teiliwr a Dylunwraig a aned yng Nghaerdydd yw Catherine Davies.

​

Cafodd ei magu yn ddwyieithog Cymraeg/Saesneg, a fel canlyniad o’i phrofiadau bywyd mae hi hefyd yn rhugl yn Sbaeneg, Catalaneg a Swedeg.

 

Mae hi’n hoff iawn o dechnegau teilwriaeth traddodiadol ac yn teimlo’n angerddol am gefnogi a chynrychioli egwyddorion ffasiwn ‘araf’ a chynaliadwy.

 

Yn ymdrechu’n gyson i ailgylchu a chael hyd i ddefnydd yn foesegol ac yn lleol, mae holl ‘toiles’ enghreifftiol yn cael eu gwneud allan o ddefnydd Ddiwedd-Rôl.

Profiad
​

Mae Catherine wedi byw, hyfforddi a gweithio mewn adrannau gwisgoedd a theilwriaeth ym Mhrydain a thramor.

 

Mae ei phrofiadau teilwriaeth theatrig yn cynnwys gweithio mewn adrannau teilwriaeth i ddynion yn theatrau Glyndebourne a Tallin Opera.

 

Mae hi wedi gweithio i gwmnïau theatr gynhwysol yn cynllunio a gwneud gwisgoedd ar gyfer actorion gydag anableddau.

Cynllunio, Torri patrymau a Theilwriaeth
​

Astudiodd Catherine Teilwriaeth Ddiwydiannol mewn coleg cyfrwng Swedeg yn Vasa, Y Ffindir a chyflawnodd Gradd Meistr mewn Cynllunio Gwisgoedd ar gyfer Theatr, Opera a Sinema yng Ngholeg Ddylunio IED, Barcelona.

 

Datblygodd sgiliau teilwriaeth traddodiadol o fewn adran Teilwriaeth ‘Wrth Fesur' i Ddynion o fewn y siop adnabyddus Santa Eulalia, Barcelona.

 

Trwy dynnu ar ddulliau addasu gwisgoedd theatr ar gyfer ‘newidiadau brys’ cefn llwyfan, mae gan Catherine agwedd naturiol a chreadigol tuag at ddatrys problemau yn gysylltiedig ag anghenion ymarferol a siapau corfforol gwahanol.

bottom of page