top of page
Cotiau Gaeaf
​
Gallwch archebu cot Wrth Fesur, wedi’i gynllunio a’i deilwra’n arbennig i’ch steil a’ch siâp.
Dewiswch o gasgliad o ddefnydd gwlân vintage a fflannell wedi’i wehyddu’n lleol, neu gwnaed o ddefnydd sydd gyda chi’n barod.
Dyma enghraifft o got hyd 3/4 a gwnaed o hen garthen Cymraeg. Mae ganddi lewys raglan, coler a llabed, pocedi welt a fent gefn.
Yn cau gyda botymau wedi’u hadfer a thyllau botwm rhwym.
bottom of page