top of page
Siaced Priodas Tom
​
Siaced briodas, Wrth Fesur, cynfas llawn, brest sengl gyda dau fotwm a manylyn poced tocyn.
Gwnaed o wlân ŵyn Herringbone Tweed glas tywyll.
Leinin print bisged wedi’i ddylunio a’i brintio gan y priodfab yn The Printhaus, Caerdydd.
Gwnaed gan ddefnyddio technegau teilwra traddodiadol ac yn cynnwys cynfas mewnol wedi’i phwytho â llaw.
Mae’r siaced yn cau gyda botymau corn, wedi’u dewis i gyd-fynd ag esgidiau’r priodfab a thyllau botwm wedi’u gwnïo a llaw.
Fel ychwanegiad trawiadol i’r leinin fuchsia dewiswyd edau sidan lliw glas trydan ar gyfer twll botwm y llabed ac ar gyfer y pwythau tu fewn i’r siaced ac o amgylch y pocedi mewnol.
Gwisgwyd dolenni llawes bisged i gyd-fynd â phrint y leinin.
Lluniau: Nigel Brown
bottom of page