top of page
background_pattern_07.png

Gwlanen Gymraeg

​

Siaced Wrth Fesur, cynfas llawn, brest sengl gyda thri botwm a manylyn poced tocyn. 

Gwnaed o gwlanen Cymraeg gwyrdd tywyll, wedi'i wehyddu ym Melin Teifi, Llandysul, Cymru.

 

Patrwm leinin y siaced wedi ei gynllunio a’i brintio yn The Printhaus gan artist lleol @stickyjim76.

 

Gwnaed gan ddefnyddio technegau teilwra traddodiadol ac yn cynnwys cynfas mewnol wedi’i phwytho â llaw.

Mae’r siaced yn cau gyda botymau pren olewydd a thyllau botwm wedi’u gwnïo â llaw.

 

I gydweddi brint y leinin, defnyddir edau sidan twll botwm lliw magenta ar gyfer twll botwm y llabed, y pwythau o amgylch y pocedi mewnol ag un o dyllau botwm pob cyff.

 

Melin Teifi yw un o’r ychydig felinau gwlân sydd ar ôl yng Nghymru, yn arbenigo mewn gwlanen draddodiadol Gymraeg ac wedi’i lleoli drws nesa i Amgueddfa Wlân Cymru.

 

Mae Teilwr bach yn ymfalchïo mewn cyd-weithio gydag artistiaid lleol, cefnogi busnesau bach a dathlu hanes a threftadaeth diwydiant gwlân Cymru. 

Lluniau: Nigel Brown

bottom of page